Dysgu Cyfunol Gwrthdro

Prif Nodwedd y Model

Mae dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth greiddiol trwy ddulliau ar-lein ac yna’n camu i’r ystafell ddosbarth i’w chymhwyso i weithgaredd ymarferol.

Dysgir cynnwys newydd y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn unig.

Rydych yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau ddull yn ôl yr angen i gwblhau unedau.

Mae 'Ystafell Ddosbarth Wrthdro' yn un lle cyflwynir myfyrwyr i gynnwys neu aseiniad drwy gyflwyno ar-lein ac yna maen nhw’n cael cyflwyno wyneb yn wyneb i gymhwyso’r dysgu.

Math o ddysgu cyfunol yw ystafell ddosbarth wrthdro lle cyflwynir myfyrwyr i gynnwys gartref ac yna byddant yn ymarfer gweithio trwyddo yn ystod y cyfle wyneb yn wyneb gyda'r tiwtor. Mae hyn yn groes i’r ymarfer mwy cyffredin o gyflwyno cynnwys newydd yn ystod amser sesiwn, yna gosod gwaith cartref a phrosiectau i'w cwblhau gan y myfyrwyr yn annibynnol gartref.

Yn y dull dysgu cyfunol hwn, mae rhyngweithio wyneb yn wyneb yn cael ei gymysgu gydag astudiaeth annibynnol drwy’r defnydd o’r VLE ar-lein. Yn y senario Ystafell Ddosbarth Wrthdro cyffredin, bydd y dysgwyr yn gweithio eu ffordd drwy gynnwys newydd drwy’r VLE a sesiynau cydamserol ac yna yn dod i mewn i’r coleg i gael cyswllt wyneb yn wyneb wedi’u harfogi â chwestiynau a gwybodaeth gefndirol i’w cymhwyso i ymarfer.

Hofran dros y PDF isod i ddatgelu'r rheolyddion (a welir ar y gwaelod). Defnyddiwch y saethau i fyny ac i lawr i mynd trwy'r tudalennau.