Trwyddedau Meddalwedd

Defnyddio'r Fersiynau Am Ddim

Pecyn Cymorth o Syniadau

Trwyddedau Meddalwedd

Defnyddio'r Fersiynau Am Ddim

Pecyn Cymorth o Syniadau

Mae Padlet yn offeryn am ddim y gellir ei ddisgrifio orau fel hysbysfwrdd ar-lein. Gellir defnyddio Padlet fel gofod cydweithredol i bostio nodiadau ar dudalen gyffredin. Gydag opsiynau o gynlluniau lluosog, gall dysgwyr bostio sylwadau, dolenni, fideos, delweddau a ffeiliau dogfennau.

www.padlet.com

Y Fersiwn Am Ddim:

Fel rhan o'r fersiwn am ddim mae gennych fynediad i dri Padlet.

Mae gennych hefyd fynediad i Oriel o Padlets parod y gallwch eu defnyddio ar ffurf
gweld-yn-unig.

Awgrym

Er mwyn osgoi gorfod talu am danysgrifiad uwchraddio gallwch lawrlwytho'ch Padlet wedi'i gwblhau fel delwedd neu PDF fel bod gennych fersiwn gweld-yn-unig wedi'i gadw. Yna gallwch chi ddileu’r padlet gwreiddiol a dechrau o’r dechrau eto.

Cynhyrchwch nodiadau helaeth ar gyfer cyfarfodydd, cyfweliadau, darlithoedd, a sgyrsiau llais pwysig eraill gydag Otter, cynorthwyydd wedi'i bweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)

Otter yw un o'r apiau lleferydd-i-destun gorau sydd ar gael, ac yn y bôn mae'n galluogi defnyddwyr i drawsgrifio sgyrsiau llais. Mae ar gael ar ddyfeisiau bwrdd gwaith, Android ac iOS. Mae llawer yn dweud ei fod yn llawer gwell, yn gyflymach ac yn fwy cywir na llais i destun ar google docs.

www.otter.ai

Y Fersiwn am Ddim:

Gyda'r cynllun am ddim, mae defnyddwyr yn cael 600 munud o drawsgrifiadau bob mis. Nid yw'r fersiwn am ddim yn cyfyngu ar unrhyw nodweddion eraill yn yr ap neu'r rhyngwyneb gwe. Gallwch drawsgrifio cyfarfodydd/darlithoedd gyda chryn gywirdeb a'u rhannu â dysgwyr yn nes ymlaen.

Awgrym

os byddwch yn ei lawrlwytho ar eich ffôn ac yn gosod hwn wrth ymyl eich cyfrifiadur (gyda'r ap wedi'i agor yno, bydd yn adnabod lleisiau lluosog ac yn eu labelu siaradwr 1, siaradwr 2 ac ati. Bydd hefyd yn amlygu geiriau a siaredir yn aml.

Mae Submit yn ffordd gyflym, ddiogel a hawdd i fyfyrwyr recordio a chyflwyno fideos. Gallwch ychwanegu Screencastify Submit fel estyniad i'ch google suite am ddim.

Ewch ati i greu dolen recordio. Rhannwch y ddolen gyda myfyrwyr. Gwyliwch y fideos yn dod i mewn (maen nhw i gyd yn cael eu cadw'n awtomatig yn eich Google Drive!) Postiwch ddolen i'ch Classrooms, gall myfyrwyr recordio am 5 munud fesul fideo myfyriwr.

www.screencastify.com

Y Fersiwn am Ddim:

Mae'r fersiwn am didm o Screencastify Submit yn caniatáu i chi greu un aseiniad gweithredol. Dyna'r unig gyfyngiad. Gallwch gau aseiniad i greu mwy o aseiniadau ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Pob cyfrifiadur, llechen, a ffôn wedi ei gefnogi - Nid oes angen lawrlwytho apiau - Recordiad un clic gyda'r gallu i fyfyrwyr a chi'ch hun ail-recordio nifer o weithiau cyn i chi gyflwyno'r un terfynol - Nid oes angen cyfrifon myfyrwyr ar gyfer screencastify submit

Ychwanegwch hwn fel estyniad Chrome trwy'r siop google add on. Mae Mote yn caniatáu i chi recordio llais ar Google docs, slides, sheets a Classroom i rannu adborth a sylwebaeth ar waith myfyrwyr neu aseiniadau.

www.justmote.me

Y Fersiwn am Ddim:

Gallwch ychwanegu cymaint o motes ag y dymunwch at ddogfen, cyflwyniad sleidiau ac ati ond dim ond 30 eiliad o hyd y gall pob recordiad mote fod.

Gallwch gadw motes penodol a'u labelu fel y gallwch eu defnyddio eto i roi adborth ar aseiniad arall.

Awgrym

Gall myfyrwyr ymateb yn gyflym gydag emojis fel yr 'wyneb dryslyd', a allai ddangos bod angen cymorth pellach arnynt.

Gallwch ychwanegu Loom fel estyniad, trwy'ch ffonau fel ap neu ei lawrlwytho i'ch bwrdd gwaith. Mae'r meddalwedd Loom for Education yn caniatáu i chi gyrchu llawer o nodweddion ychwanegol, megis gofod i rannu gwaith eich tîm. Mae jest angen i chi ddilysu eich cyfrif gan ddefnyddio'ch e-bost coleg.

Mae Loom yn caniatáu i chi rannu'ch sgrîn a chyflwyno dros ei ben. Gallwch greu hyd at 100 o fideos a chymryd cipluniau o hyd at 5 munud o amser recordio. Gellir rhannu'r rhain gyda myfyrwyr trwy ddolen, nid oes angen iddynt gael Loom er mwyn cael mynediad iddynt.

www.loom.com

Awgrym

Os ydych chi am wneud mwy na 100 o fideos gallwch eu lawrlwytho (a'u hychwanegu at yriant) ac yna dileu rhai i wneud mwy o le.

Mae Canva yn offeryn dylunio graffig gwych i'ch helpu chi i greu posteri hardd, ffeithluniau, fideos a mwy.

Mae cyfrif Canva for Education yn caniatáu i chi gyrchu cannoedd o dempledi, delweddau a thestun am ddim.

Gall gymryd hyd at 10 diwrnod i’w ddilysu ond fel arfer bydd yn cymryd llawer llai o amser. Pan fyddwch wedi creu cyfrif gallwch ychwanegu myfyrwyr trwy google classroom a gallant weithio ar y cyd â'u cyd-fyfyrwyr.

Sianel YouTube Canva

www.canva.com

Awgrym

Er mwyn cadw cynllun lliw cyson ar draws pob dyluniad gallwch greu palet lliw trwy fynd i 'Brand Kit' o'r dudalen gartref. Bydd hyn yn helpu i greu golwg gydlynol ar draws eich dyluniadau.

Ychwanegwch hwn fel estyniad Chrome drwy siop google add on. Mae'n gweithio gyda Slides, Sheets a Docs a Drive. Ar gael o Google Workpace Marketplace.

- Nodweddion llusgo a gollwng

- Yn reddfol iawn; hawdd i'w defnyddio

- Yn cynhyrchu diagramau sy’n edrych yn broffesiynol yn gyflym

- Gall myfyrwyr ei feistroli'n gyflym

- Yn wych ar gyfer mapiau meddwl ac anodi

- Yn gallu cydweithredu mewn amser real (cydamserol)

- Yn gallu cyflwyno diagramau yn hawdd

- Tiwtorialau fideo yn Help

www.lucidchart.com

Y Fersiwn am Ddim:

Mae Lucidchart yn gwerthu ychydig o haenau o wasanaeth. Mae yna gyfrif personol am ddim y gallwch ei ddefnyddio am byth. Yr unig gyfyngiadau yw eich bod chi'n cael 25MB o le storio, 100 o dempledi, a llyfrgell gyda siapiau sylfaenol yn unig ar gyfer llunio diagramau a siartiau llif.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dim ond eich 3 dogfen Lucidchart a grëwyd fwyaf diweddar y gallwch eu golygu ac mae'r gweddill ar ffurf gweld-yn-unig.

Mae Nearpod yn ddarn o feddalwedd sy'n eich galluogi i ymgorffori sleidiau presennol i'w gwneud yn rhyngweithiol. Mae myfyrwyr yn ateb cwestiynau mewn amser real ac rydych chi'n cael adborth ar unwaith.

Gyda'r fersiwn am ddim gallwch gyrchu 5,000+ o fideos a gweithgareddau rhyngweithiol, ynghyd â banciau o fideos a gweithgareddau cynwysedig er mwyn creu yn gyflymach. Yn ogystal, mae 7,500+ o wersi rhyngweithiol parod ar gael i chi.

www.nearpod.com

Y Fersiwn am Ddim:

Mae pob defnyddiwr am ddim yn cael hyd at 50MB o ofod, a gall gael hyd at 30 o fyfyrwyr y sesiwn.

Awgrym

Mae Nearpod yn integreiddio'n dda â rhaglenni ac apiau eraill gan ei gwneud hi'n bosibl tynnu deciau sleidiau eraill i mewn. Er y gallwch ddefnyddio Google Slides neu Microsoft PowerPoint, mae hefyd yn gweithio gyda Canva.

Beth yw ThingLink? Mae ThingLink yn cynnig llwyfan gwe ac ap symudol ar gyfer creu a rhannu delweddau rhyngweithiol. Mae hyn yn rhoi'r gallu i chi ychwanegu cynnwys y tu mewn i unrhyw ddelwedd - gan gynnwys lluniau, chwaraewyr fideo a sain, dolenni gwe, arolygon barn, testun a mwy - sy'n ymddangos yn y ddelwedd wrth ei rhannu a'i gweld.

www.thinglink.com

Y Fersiwn am Ddim:

Cliciwch Yma

Rhestr gynhwysfawr o'r hyn y gallwch ei gyrchu gyda'r fersiwn am ddim.

Awgrym

Er y gallai fod gennych fwrdd bwletin mewn ystafell ddosbarth gorfforol, efallai na fyddai hyn o ddefnydd mawr i rieni - neu hyd yn oed myfyrwyr yn ystod dysgu o bell. Trwy dynnu llun o'ch bwrdd ac ychwanegu rhyngweithio ThingLink, gall ddod ag ef yn fyw, fwy neu lai.

Yn caniatáu i ddarlithwyr a myfyrwyr olygu ac anodi dogfennau pdf.

Dadlwythwch fel estyniad Chrome neu cofrestrwch ar gyfer cyfrif addysgol trwy'r dudalen we.

www.kamiapp.com

Y Fersiwn am Ddim:

Offer anodi (Amlygu, tanlinellu, blychau testun, sylwadau testun, mewnosod siapiau, lluniadu llawrydd)

- Google drive Auto Save

- Dogfennau wedi'u Sganio

Awgrym

Gallwch recordio'ch sgrin yn Kami i ddysgwyr weld proses ar dyddiad neu amser wahanol.

Yn byrhau dolenni ac yn olrhain y cliciau.

Yn ddefnyddiol iawn ar gyfer postiadau cyfryngau cymdeithasol a chadw golwg ar faint o bobl neu fyfyrwyr sydd wedi clicio ar y ddolen mewn gwirionedd.

www.bitly.com

Mae’r Fersiwn am Ddim yn caniatáu:

- Golygu diwedd url er enghraifft www.bit.ly/4db2s i www.bit.ly/mypage

- Gallwch fyrhau 1000 o ddolenni’r mis

- Hanes 30 diwrnod yn unig

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae defnyddio Bitly i addasu eich cysylltiadau yn eu gwneud yn fwy dibynadwy a chofiadwy i'r defnyddiwr, gan wella'r gyfradd clicio drwodd.

Gwneuthurwr llyfrau fflip digidol ar gyfer cylchgronau syfrdanol.

www.flipsnack.com

Y Fersiwn am Ddim:

- 3 llyfr

- Uchafswm o 30 tudalen

- Llwythwch i fyny eich pdf eich hun neu ewch ati i greu yn y llwyfan

- Ymgorffori codau a rhannu cyfryngau cymdeithasol

- Yn rhydd o hysbysebion

- 1000+ o dempledi, gan gynnwys catalogau, cylchgronau, adroddiadau a mwy

Yr anfantais yw na allwch ei lawrlwytho fel pdf i'w argraffu wedyn, fersiwn â thâl yw hwn.

AWGRYM

Addasu helaeth trwy ddefnyddio mapiau, sain, gifs a fideos.

Mynediad am ddim i adnoddau fideo i gefnogi addysgu o bell, yn cynnwys rhaglenni teledu gan y BBC a sianeli eraill.
Gallwch droi rhaglen ddogfen yr ydych wedi'i gweld ar y BBC yn ffilm ryngweithiol. Gallwch oedi'r rhaglen ddogfen, ychwanegu cwestiwn, cwestiwn amlddewis, arolwg barn ac ati.

www.clickview.co.uk

Mae gennym y drwydded eisoes felly mae'r cyfan AM DDIM!

Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion coleg a dewiswch Coleg Sir Gâr.

Dyma enghraifft o raglen ddogfen ryngweithiol:

Cliciwch Yma

AWGRYM

Gallwch chi toglo p'un ai i ddangos neu guddio adnoddau i fyfyrwyr.

Ewch ati i greu cyflwyniadau rhyngweithiol gydag arolygon barn, cwisiau, cymylau geiriau a sesiynau Holi ac Ateb byw.

Mae dysgwyr yn mewngofnodi i menti.com gyda'r cod a ddarperir gyda’ch cyflwyniad i gymryd rhan yn agweddau rhyngweithiol eich cyflwyniad.

www.mentimeter.com

Y Fersiwn am Ddim:

- Sleidiau cynnwys anghyfyngedig

- 2 gwestiwn o unrhyw fath i bob cyflwyniad

- 5 cwis i bob cyflwyniad

- Sesiwn Holi ac Ateb (Cwestiynau wedi’u cyfrannu’n
dorfol gan y gynulleidfa)

Awgrym

Os oes angen mwy o gwestiynau arnoch chi, ewch ati i greu cyflwyniad arall.

Mae Book Creator yn grëwr llyfrau ar-lein y gellir ei ddatblygu a'i rannu trwy lyfrgelloedd a dolenni. Mae'n ffordd wych o gasglu a rhannu gwaith eich myfyrwyr.

www.bookcreator.com

Fersiwn am Ddim:

- Rydych chi'n cael 40 o lyfrau i'w cadw mewn un llyfrgell

Cliciwch yma i weld Llyfr enghreifftiol

awgrym

Cyfuno gwahanol gyfryngau. Mae llyfrau'n rhoi'r fframwaith i fyfyrwyr greu ac uno gwahanol fathau o fynegiant. Mae llawer o fyfyrwyr yn ei chael hi'n haws dangos a rhoi sylwadau ar fideo o arbrawf na cheisio ei ddisgrifio.

Mae'n ffordd i gadw eich holl hoff gynnwys o bob rhan o'r we mewn un lle, p'un a yw hynny'n ddelweddau, mapiau, cynnwys, fideos, erthyglau, trydariadau, caneuon neu flogiau.

Yna gallwch guradu a threfnu'r dolenni hyn a lyfrnodwyd mewn Collection i lunio stori weledol i'w defnyddio gyda myfyrwyr.

Yna gallwch chi rannu'ch wakelet.

Casgliad drwy god QR, dolen neu dros.

www.wakelet.com

Mae Wakelet am ddim i Addysgwyr

Mae hefyd yn gydnaws â dyfeisiau ac mae’n gyfan gwbl am ddim, ac nid oes cyfyngiadau!.

Awgrym

Mae Wakelet nid yn unig wedi sicrhau bod ei borth ar-lein ar gael trwy unrhyw borwr gwe ond mae ar gael ar ffurf ap. Daw hyn ar iOS, Android, ac Amazon Fire ac mae hefyd ar gael fel estyniad Chrome.

Gallwch wneud Pear Deck Slides o fewn PowerPoint Online neu Google Slides. Ond yn lle cyflwyno sleidiau gwybodaeth yn unig, mae Pear Deck yn gwneud eich sleidiau'n rhyngweithiol fel y gall pob myfyriwr ymateb i'ch cwestiynau neu awgrymiadau ar eu sgriniau eu hunain.

Gallwch naill ai weithio o fewn Pear Deck i greu cyflwyniad neu fewnforio cyflwyniadau Slide sydd eisoes yn bodoli

www.peardeck.com

Ar gyfer 20 o wahanol ffyrdd gallwch ddefnyddio Pear Deck:

Cliciwch Yma

AWGRYM

Mae Pear Deck bellach yn caniatáu i athrawon recordio eu lleisiau yn uniongyrchol i'r sleidiau.

Cyflwynwch fyfyrwyr i ddysgu ar gyflymder eu hunain gyda gwersi fideo rhyngweithiol. Mae'n hawdd ychwanegu eich naratif llais a'ch cwestiynau eich hun
Defnyddiwch fideos o YouTube, Academi Khan, Crash Course a mwy. Os byddai'n well gennych recordio a llwytho'ch fideo eich hun i fyny, gallwch wneud hynny.
Gwiriwch a yw myfyrwyr yn gwylio'ch fideos, sawl gwaith maen nhw'n gwylio pob adran, ac a ydyn nhw'n deall y cynnwys.

www.edpuzzle.com

Y Fersiwn am Ddim:

Gyda'r Cynllun Sylfaenol am ddim, gallwch storio hyd at 20 fideo yn eich cyfrif. Fodd bynnag, mae gan rai athrawon gannoedd o fideos wedi'u storio yn eu cyfrifon!

Dyma sut y gallwch chi wneud hyn hefyd:

Cyfeiriwch eich cydweithwyr at Edpuzzle! Ar gyfer pob athro rydych chi'n ei gyfeirio sy'n creu cyfrif Edpuzzle ac yn dilysu ei gyfeiriad e-bost, bydd y ddau ohonoch chi'n derbyn lle ar gyfer tair gwers arall!

Gallwch eu gwahodd yma:

Cliciwch Yma

AWGRYM

Canolbwyntiwch ar greu un bloc o gynnwys bob mis. Erbyn diwedd y flwyddyn, bydd gennych 50% o'ch cynnwys mewn gwersi fideo ac yn barod i'w ailddefnyddio'r flwyddyn nesaf.