Modelau Dysgu Cyfunol

Bydd yr adran hon yn rhoi trosolwg i chi o fodelau gwahanol y gallwch eu cymhwyso i’ch cynlluniau gwaith er mwyn cyflwyno eich cynnwys mewn modd cyfunol.

Gellir defnyddio'r modelau hyn ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad.

Modelau Dysgu Cyfunol

Bydd yr adran hon yn rhoi trosolwg i chi o fodelau gwahanol y gallwch eu cymhwyso i’ch cynlluniau gwaith er mwyn cyflwyno eich cynnwys mewn modd cyfunol.

Gellir defnyddio'r modelau hyn ar eu pennau eu hunain neu mewn cyfuniad.

Elfennau Dysgu Cyfunol

Cwestiynau Allweddol i’w hystyried wrth gynllunio’r profiad dysgu

OPEN

Dysgu Cyfunol Gwrthdro

Mae dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth greiddiol trwy ddulliau ar-lein ac yna’n camu i’r ystafell ddosbarth i’w chymhwyso i weithgaredd ymarferol.

OPEN

Dysgu Cyfunol o Bell

Mae mwyafrif y dysgu ar-lein ac mae dysgwyr yn cyfarfod gyda thiwtoriaid ar gyfer sesiwn un i un yn ôl yr angen.

OPEN

Dysgu Cyfunol y Tu Fewn Tu Fas

Caiff y cynnwys ei ddechrau’n gyfan gwbl yn yr ystafell ddosbarth (wyneb yn wyneb) ac yna ei gwblhau’n gyfan gwbl ar-lein. Byddan nhw’n dysgu cynnwys newydd yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi hefyd.

OPEN

Dysgu Cyfunol Tu Fas Tu Fewn

Caiff y cynnwys ei ddechrau’n gyfan gwbl ar-lein ac yna ei gwblhau’n gyfan gwbl yn yr ystafell ddosbarth (wyneb yn wyneb). Byddan nhw’n dysgu cynnwys newydd yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi hefyd.

OPEN

Dysgu Cyfunol Meistrolaeth

Rhoddir cynnwys mewn VLE a bydd dysgwr yn mynd i’r afael â gwaith strwythuredig ar ei gyflymder ei hun, gan geisio cymorth pan fo angen. 

OPEN

Dysgu Cyfunol Atodol

Mae dysgu ar-lein yn cael ei wella gan siaradwyr gwadd a dosbarthiadau meistr.

OPEN

‘Station Rotation’

Symudir trwy orsafoedd gyda dulliau cyflwyno gwahanol o wythnos i wythnos.

Open