Mae ThingLink yn caniatáu i chi gymryd delwedd neu fideo a mewnosod dolenni, delweddau, sain
a thestun ar ben y ddelwedd neu fideo i greu adnodd rhyngweithiol. Gallwch rannu’r delweddau neu fideos rhyngweithiol drwy ddolen neu eu hymgorffori yn eich VLE.
Gorau ar Gyfer
Fideos o deithiau rhithwir
er enghraifft, gallech chi ffilmio taith o amgylch ystafell ymarferol
ac ychwanegu fideos neu destun ar ben y daith er mwyn caniatáu i fyfyrwyr ddarganfod mwy
am wahanol gyfarpar yn yr ystafell.
Delweddau 360 taith rithwir
cymerwch ddelwedd 360 o ystafell ac ychwanegwch fideos ar ben y ddelwedd er mwyn caniatáu i fyfyrwyr ddarganfod mwy am wahanol rannau o’r ystafell
Map o’r byd
darparu gwybodaeth ychwanegol am bob gwlad ychwanegu gwybodaeth ychwanegol ar unrhyw ddiagram cynlluniau llawr
- Os ydych chi am greu taith rithwir o amgylch ystafell ymarferol, salon er enghraifft, mae camera 360 gradd yn ffordd wych o wneud hyn. Os nad oes gennych chi gamera 360 gradd gallwch lawrlwytho’r ap Google Street viewer yn rhad ac am ddim a chymryd delwedd 360 gradd ar eich ffôn, ei chadw, ac yna ei lanlwytho i ThingLink.
- Os ydych chi’n ffilmio taith rithwir ar gyfer fideo, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n symud yn araf iawn wrth ffilmio.
- Os ydych am i fyfyrwyr weld cynnwys wedi’i fewnosod mewn trefn arbennig, defnyddiwch rifau fel yr eiconau.