Screencastify

Screencastify

Estyniad porwr Chrome yw Screencastify sy'n recordio eich sgrîn, wyneb, llais, a mwy.

Yn gyntaf mae angen i chi ei ychwanegu fel estyniad trwy'r Webstore a chaniatáu iddo gael mynediad i'ch camera a'ch meicroffon ac yna rydych chi'n barod i gychwyn arni. Mae'n caniatáu i chi recordio'ch Gwe-gamera, tab sengl neu'ch bwrdd gwaith cyfan gan adael i chi symud rhwng tabiau.

Wrth recordio'ch Tab neu Fwrdd gwaith mae'n caniatáu i chi naill ai ymddangos yn y recordiad trwy'ch gwe-gamera neu ychwanegu sain dros eich recordiad.

Wrth recordio, defnyddiwch yr offer i ysgrifennu, darlunio, dileu, cadw amser, ailgychwyn, neu amlygu rhan o’r sgrîn.

Mae'r fersiwn am ddim o Screencastify yn caniatáu hyd at 5 munud o amser recordio i chi ac unwaith y bydd y recordiad wedi'i gwblhau yna mae'n caniatáu i chi ei gadw’n awtomatig yn eich Google Drive.

Mae recordiadau sgrîn yn ffordd effeithiol o greu fideos tiwtorial, creu adborth ystyrlon, gall helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth gyflwyno cyflwyniadau (Sain yn unig yn gyntaf, yna gyda Gwe-gamera, yna’n go iawn). Gellir ei ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr fel offeryn asesu sy'n caniatáu iddynt gyflwyno sylwebaeth ar arddangosiadau ymarferol eraill wedi'u recordio.

Mae Screencastify yn hawdd ei ddefnyddio ac mae'n dod gyda phecyn cymorth gwych gyda help a chefnogaeth ychwanegol. Gall y terfyn amser o 5 munud fod yn fendith ac yn anfantais. Ydych chi wir eisiau i fyfyrwyr wrando ar fwy na 5 munud o adborth ar y tro, mae hyn yn eich atal rhag rhygnu ymlaen (ac ymlaen…. ac ymlaen). Fodd bynnag, weithiau bydd angen fideo cyfarwyddo mwy manwl arnoch chi a fydd yn cymryd llawer mwy o amser a byddwch chi ei eisiau fel adnodd i fyfyrwyr ddod yn ôl ato.

Nid oes meddalwedd golygu yn y fersiwn am ddim, felly os ydych chi am loywi'ch recordiadau yna bydd yn rhaid i chi naill ai dalu am y fersiwn premiwm, neu fewnforio eich cyfryngau i lwyfan golygu arall.

Awgrym da

Ewch ati i greu eich adborth Screencastify i fyfyrwyr trwy recordio eu gwaith ac ychwanegu awgrymiadau. Gorffennwch y recordiad gydag un neu ddau o dargedau. Cymerwch y ddolen o'r recordiad a'i hychwanegu i mewn i’r sylwadau ar waith y myfyriwr gan ofyn iddynt ateb beth yw'r targedau. Bydd hyn yn sicrhau eu bod wedi gwylio'r fideo ac yn helpu i gau'r ddolen adborth.