'KAHOOT'

'KAHOOT'

Mae Kahoot yn llwyfan gemau ar-lein lle gallwch chi greu a rhannu cwisiau. Mae Kahoot yn caniatáu i
chi greu cwisiau hwyliog ac archwilio a defnyddio gemau y mae eraill wedi'u creu.

FE'I DEFNYDDIR ORAU AR GYFER

- Mesur dealltwriaeth

- Gwirio gwybodaeth

- Asesu ffurfiannol

- Cwis adolygu ar ddechrau sesiwn

AWGRYMIADAU DA

- Edrychwch ar yr adran 'discover’ ar gyfer gemau sydd eisoes wedi'u creu

- Gellir ei wneud fel cwis byw neu ei neilltuo ar gyfer hunan-ddysgu

- Pwyswch yr eicon sain ar ochr dde uchaf y sgrîn i ddiffodd y gerddoriaeth

- Gofynnwch i'r dysgwyr ddefnyddio'u ffôn i gwblhau'r cwis