Offeryn bwrdd gwyn rhyngweithiol yw Jamboard sy'n eich galluogi i greu 'Jams' sy'n gydweithredol ac sy'n hawdd eu cadw a'u rhannu gyda myfyrwyr.
Mae yna 3 fersiwn wahanol o Jamboard i’w trafod. Mae yna Jamboard ffisegol, fersiwn Jamboard ar y we, a fersiwn Ap Jamboard. Mae pob un yn gwneud gwaith tebyg ac mae pob un yn rhyngweithio â'i gilydd, ond mae pob un o'r fersiynau hyn yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i'r llall fel y byddech chi'n ei ddisgwyl.
Bydd y fideo hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwch chi ei wneud gyda'r fersiwn ar y we.
Mae Jamboard yn offeryn y byddwch yn dod o hyd iddo yn eich Google Workspace for Education, mae’n integreiddio’n ddi-dor gyda Google Meet a gallwch greu a chael mynediad i dempledi i’w paratoi yn hawdd.
Mae'r offeryn bwrdd gwyn rhyngweithiol hwn yn dda iawn ar gyfer cyflwyno hybrid gan ddefnyddio Google Meet a chipio hafaliadau organig wrth gyflwyno sesiynau y gellir eu cadw, eu hailagor a'u defnyddio mewn modd cydweithredol gyda myfyrwyr. Mae Jamboards yn amlbwrpas iawn a gellir eu defnyddio'n dda ar gyfer byrddau syniadau ac ymarferion llusgo a gollwng.
Ymunwch â chymunedau ar-lein i gael mynediad i rai templedi Jamboard anhygoel