'Book Creator'

'Book Creator'

Ffordd syml a gweledol i ddylunio llyfrau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein neu fel rhan o ddysgu cyfunol yw Book Creator. Gall myfyrwyr ac athrawon weithio ar y cyd gydag amrywiaeth o dempledi neu’r opsiwn i ddechrau o’r dechrau. Gall athrawon hefyd roi adborth amser real i’r myfyrwyr. Gallwch ychwanegu testun, sain, fideo a delweddau i’ch Book Creator.

GORAU AR GYFER

Caniatáu i’r myfyrwyr fod yn greadigol - Arddangos gwaith myfyrwyr - Gwaith portffolio - Dysgwyr ag ADY

Awgrymiadau da:

- Sicrhewch fod y nodwedd gweithio ar y cyd ymlaen neu ni fydd y myfyrwyr yn gallu golygu’r llyfr

- Mae’r nodwedd darllen yn uchel yn ddefnyddiol iawn, gellir cael mynediad i hyn drwy bwyso’r botwm chwarae ar dde uchaf y sgrin