Offeryn dylunio graffig yw Canva ar gyfer y we, Android, iOS, a Chrome. Ar ôl i'ch cyfrif cael ei wneud yna gallwch greu cyflwyniadau deinamig, postiadau cyfryngau cymdeithasol, fideos, crynodebau, cylchlythyrau a llawer mwy.
Wrth greu cyfrif gwnewch yn siŵr eich bod chi'n creu cyfrif addysgol sy'n rhoi mynediad i chi i lawer o nodweddion premiwm ac sy'n caniatáu i chi gysylltu'ch cyfrif Canva for Education â'ch Google Classrooms.
Mae Canva yn caniatáu i chi fod yn greadigol iawn gyda chynhyrchu unrhyw beth o diwtorialau i addasu eich cyflwyniadau. Mae hefyd yn llwybr i fyfyrwyr fod yn fwy creadigol wrth fynd ati i lunio asesiadau. Mae'n gartref i lawer o dempledi rhagosodedig, fideos, traciau sain a delweddau, ond gallwch chi lwytho'ch cynnwys eich hun i fyny hefyd.
Ar ôl i ddefnyddwyr orffen creu, mae eu dyluniadau'n cael eu cadw'n awtomatig i'r cwmwl a gellir cael mynediad o hafan y defnyddiwr yn yr ap neu ar y wefan. Yna gall defnyddwyr allforio eu creadigaethau trwy e-bost, fel postiadau Facebook, neu drwy Twitter, a gallant lawrlwytho eu delweddau ar fformat JPEG, PNG, neu PDF.
Rhowch amser i'ch hun i archwilio Canva, mae ganddo lu o nodweddion a gweithrediadau. Edrychwch ar eu hadran help a chymorth ac ymunwch â’u gweminarau i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd ar gael.