

Mae Moodle yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir ffynhonnell agored a ddefnyddir ledled y byd gan lawer o sefydliadau
addysgol.
Gwyliwch bob un o'r fideos isod i gael gwell dealltwriaeth o ddefnyddio Moodle.
Mae'r fideo hwn yn dangos y ffordd gywir i chi greu pennawd mawr ar frig eich cwrs ar Moodle, a fydd yn rhoi hunaniaeth i'ch cwrs, ac yn cynyddu hygyrchedd i'r holl ddefnyddwyr.
GORAU AR GYFER
- Tiwtoriaid sy'n defnyddio Moodle fel eu VLE - naill ai fel llwyfan unigol, neu ar y cyd ag offer addysgu ar-lein eraill
- Gwella golwg eich cwrs Moodle
- Sicrhau bod eich cwrs Moodle yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr
Noder: Recordiwyd y fideo hwn ar Moodle Grŵp Colegau Castell Nedd Port Talbot, sef fersiwn 3.5 Moodle ac mae'n defnyddio'r thema Adaptable.
- Mae pennawd clir ar frig eich cwrs Moodle yn ei gwneud hi'n amlwg i fyfyrwyr eu bod nhw yn y lle iawn.
- Gall cynnwys teitl wneud i'ch cwrs Moodle edrych yn broffesiynol ac wedi'i sefydlu'n dda.
- Defnyddiwch y fformatau 'Pennawd' yn hytrach na jest newid maint testun Paragraff safonol -
bydd darllenwyr sgrîn ac offer hygyrchedd yn gallu dweud mai pennawd yw hwn yn hytrach na thestun arferol yn unig.
Mae'r Consortiwm Dysgu Cyfunol (BLC) wedi'i sefydlu gan Goleg Heart of Worcestershire
i gefnogi colegau i symud ymlaen i fodloni canllawiau achrededig a chaniatáu i aelodau elwa o greu a rhannu adnoddau sy’n benodol i AB.
Rhaid i chi fod yn rhan o'r consortiwm er mwyn defnyddio'r adnoddau yn eich cyrsiau Moodle.
Mae'r fideo hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio'r bloc BLC i fewnosod Adnoddau BLC yn eich cwrs Moodle.
GORAU AR GYFER
- Tiwtoriaid sy'n defnyddio Moodle fel eu VLE - naill ai fel llwyfan unigol, neu ar y cyd ag offer addysgu ar-lein eraill
- Aelodau’r Consortiwm Dysgu Cyfunol. Cliciwch yma i gael gwybod mwy
- Cynnwys Adnoddau BLC yn eich cwrs fel eu bod yn bwydo drwodd i'ch Llyfr Graddau.
Noder: Recordiwyd y fideo hwn ar Moodle Grŵp Colegau Castell Nedd Port Talbot, sef fersiwn 3.5 Moodle ac mae'n defnyddio'r thema Adaptable.
- Mae mewnosod Adnoddau BLC yn y modd hwn yn caniatáu i'r cwrs Moodle olrhain eu defnydd a'u bwydo drwodd i'r llyfr graddau.
- Ystyriwch edrych trwy bynciau eraill yn hytrach na'ch un chi gan y gallai fod modiwlau sydd wedi’u creu a fyddai’n berthnasol ar draws y cwricwlwm (Llythrennedd Digidol, e-Ddiogelwch, Iechyd a Diogelwch cyffredinol, Rhifedd, ac ati).
Mae'r fideo hwn yn dangos i chi sut i newid rhwng gwahanol gynlluniau cwrs i ymchwilio pa rai allai weithio orau i chi a'ch myfyrwyr. Gall y dewis o gynlluniau amrywio rhwng themâu Moodle, felly mae bob amser yn werth edrych ar yr hyn sydd ar gael i chi.
GORAU AR GYFER
- Tiwtoriaid sy'n defnyddio Moodle fel eu VLE - naill ai fel llwyfan unigol, neu ar y cyd ag offer addysgu ar-lein eraill
- Gwella golwg a defnyddioldeb eich cwrs Moodle wrth cynlluniau arddull 'scroll of death'.
Noder: Recordiwyd y fideo hwn ar Moodle Grŵp Colegau Castell Nedd Port Talbot, sef fersiwn 3.5 Moodleac mae'n defnyddio'r thema Adaptable.
- Rhowch gynnig ar wahanol gynlluniau. Efallai na fydd yr hyn a allai weithio'n dda ar un o'ch cyrsiau yn gweithio cystal ar un arall.
- Weithiau y cynllun symlaf sy’n gweithio orau. Wrth ddefnyddio fformat Grid, cynlluniwch ddelwedd glir i gynrychioli pob adran.
Mae'r fideo hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio Labeli i greu is-benawdau yn eich cwrs Moodle, er mwyn trefnu a rhannu rhestrau hir o adnoddau.
GORAU AR GYFER
- Tiwtoriaid sy'n defnyddio Moodle fel eu VLE - naill ai fel llwyfan unigol, neu ar y cyd ag offer addysgu ar-lein eraill
- Trefnu eich cwrs Moodle mewn ffordd syml.
Noder: Recordiwyd y fideo hwn ar Moodle Grŵp Colegau Castell Nedd Port Talbot, sef fersiwn 3.5 Moodle ac mae'n defnyddio'r thema Adaptable.
- Defnyddiwch labeli i rannu rhestrau hir o adnoddau.
- Defnyddiwch fformatio i wneud i'ch labeli sefyll allan.
- Cadwch y testun yn glir ac yn gryno.
Mae'r fideo hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio Labeli i greu Cyfarwyddiadau, Cyflwyniadau a Negeseuon yn eich cwrs Moodle, er mwyn gwella cyfathrebu rhwng y Tiwtor a'r Myfyriwr yn ystod dysgu anghydamserol.
GORAU AR GYFER
- Tiwtoriaid sy'n defnyddio Moodle fel eu VLE - naill ai fel llwyfan unigol, neu ar y cyd ag offer addysgu ar-lein eraill
- Gwella dysgu anghydamserol trwy ddarparu cyfarwyddiadau a gwybodaeth glir i'ch myfyrwyr.
- Gwneud eich cwrs Moodle yn fwy cydlynol a hawdd ei ddilyn.
Noder: Recordiwyd y fideo hwn ar Moodle Grŵp Colegau Castell Nedd Port Talbot, sef fersiwn 3.5 Moodle ac mae'n defnyddio'r thema Adaptable.
- Defnyddiwch labeli i ychwanegu cyfathrebu rhwng tiwtor a'i fyfyrwyr.
- Gwnewch i'r testun mewn labeli swnio fel chi.
- Cadwch y testun yn glir ac yn gryno.
- Ychwanegwch ddelweddau, a fformatio diddorol, i wneud i'ch labeli sefyll allan.
Amgylchedd Dysgu Rhithwir ffynhonnell agored yw Moodle a ddefnyddir ledled y byd gan lawer o sefydliadau addysgol.
GORAU AR GYFER
- Tiwtoriaid sy'n defnyddio Moodle fel eu VLE - naill ai fel llwyfan unigol, neu ar y cyd ag offer addysgu ar-lein eraill
- Cymhennu Da ar gyfer Moodle
- Atal hysbysiadau yn dod gan Gyrsiau Moodle nad ydych yn gysylltiedig â nhw mwyach.
Noder: Recordiwyd y fideo hwn ar Moodle Grŵp Colegau Castell Nedd Port Talbot, sef fersiwn 3.5 Moodle ac mae'n defnyddio'r thema Adaptable.
- Ewch ati i dynnu ‘Athrawon’ o’ch Cwrs Moodle nad ydynt mwyach yn cyflwyno arno.
- Cadwch y rhestr o ddefnyddwyr eich cwrs Moodle yn gymen ac yn gyfredol.
- Ewch ati i dynnu eich hun o hen gyrsiau Moodle neu rai blaenorol.